14 Gorffennaf 2023
Annwyl Mark,
Yn ein cyfarfod ar 29 Mehefin 2023, trafododd y Pwyllgor Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogelwch, Diogeledd a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill.
Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth y DU yn cadarnhau bod y Confensiwn yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a materion datganoledig fel ei gilydd, ac yr ymgynghorwyd â’r llywodraethau datganoledig ar ddrafftio’r Confensiwn a pharatoi’r Memorandwm Esboniadol.
Mae Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru 2022 i 2030 yn nodi ei phrif amcanion ar gyfer denu a chefnogi digwyddiadau mawr, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon, a sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni’r rhain. Mae’r strategaeth yn rhestru nifer o ddigwyddiadau mawr a gynhelir yng Nghymru sy’n helpu i gyflawni ei huchelgais i “serennu ar lwyfan y byd”.
O ganlyniad i hyn, hoffai’r Pwyllgor ofyn i Lywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth am y canlynol:
§ Ei barn am y Confensiwn, gan gynnwys ei effaith yng Nghymru a’r modd y mae’n ymwneud â strategaethau perthnasol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022 i 2030;
§ Ei rhan yn natblygiad y Confensiwn, gan gynnwys a yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn nogfennau'r Confensiwn;
§ Natur trafodaethau rhynglywodraethol yn ymwneud â'r Confensiwn;
§ I ba raddau y mae gofynion y Confensiwn eisoes ar waith ar gyfer gemau pêl-droed a digwyddiadau chwaraeon eraill yng Nghymru;
§ A oes angen camau pellach i weithredu gofynion y Confensiwn yn llawn; a
§ Rôl a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru ac eraill wrth roi’r Confensiwn ar waith mewn meysydd datganoledig.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn 14 Awst 2023.
Yn gywir,
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.